Os oes gennych chi syniad ar gyfer cwrs, sesiwn, neu ymgynghori un-i-un sydd ddim ar y rhestr o hyfforddiant enghreifftiol a ddarperir gan EACH, cysylltwch â ni a byddwn yn gweithio gyda chi i’w ddarparu yn unol â’ch anghenion unigryw chi.
Dyma rai esiamplau o gyrsiau rydym eisoes wedi’u darparu:
- ‘It’s the Law’ – Dysgu am y ddeddfwriaeth o ran gweithwyr trawsrywiol, y rhagfarn a’r gwahaniaethu y gallant ei wynebu a sut i herio agweddau trawsffobig
- ‘Recruitment & Retention’ – Beth sy’n denu darpar weithwyr traws neu hoyw i’ch cwmni? Beth sy’n gwneud iddyn nhw aros? Beth sy’n gwneud iddyn nhw adael?
Bydd y ddau gwrs poblogaidd uchod yn helpu’ch cwmni i fod yn gyflogwr ‘arfer gorau’; sy’n croesawu, yn gwerthfawrogi, ac yn cadw ei weithwyr traws a hoyw (gan gynnwys unigolion sy’n newid rhyw tra maent yn gweithio i chi) ac yn atal aflonyddu LHDT+ cyn iddo ddigwydd.
- ‘What’s in a Word?’ – Edrych ar y gwahaniaeth rhwng cyfeiriadedd rhywiol (rhywioldeb) a hunaniaeth o ran rhywedd.
Mae cwrs yma’n rhoi cyfle i weithwyr eich sefydliad i wella’u dealltwriaeth o iaith a geirfa briodol i ddisgrifio cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth o ran rhywedd: gan ennyn yr hyder i siarad yn agored am faterion perthnasol yn y gweithle.
- ‘In Our Own Image?’ – Asesu’r rhan a chwaraeir gan ‘ragfarn ddiarwybod’ wrth recriwtio a rhedeg y busnes o ddydd i ddydd mewn perthynas â gweithwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol.
Mae’r cwrs yma’n rhoi cyfle ichi asesu faint mae ein meddwl diarwybod yn rheoli’r ffordd rydym yn gweld eraill, a faint o effaith mae hyn yn ei gael ar bethau fel recriwtio neu’r penderfyniadau a wneir am staff neu bersonél.
- ‘Recognition & Respect’ – Deall sut i greu gweithle cynhwysol ar gyfer gweithwyr LHDT+ a gwneud i bawb deimlo’n werthfawr.
Mae cwrs yma’n darparu ‘cynghorion defnyddiol’ ar gyfer creu gweithle croesawgar a chynhwysol lle mae pawb yn elwa, gan edrych ar y buddiannau uniongyrchol ac anuniongyrchol i’r sefydliad, asiantaeth neu gwmni cyfan.