Mae EACH (Gweithredu Addysgol sy’n Herio Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia) yn elusen sydd wedi ennill gwobrau lu am ddarparu hyfforddiant, adnoddau a gwasanaethau cymorth i wella bywydau pobl sy’n lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol neu’n cwestiynu. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn gweithio i leihau’r gwahaniaethu, aflonyddu neu fwlio a wynebir oherwydd hunaniaeth o ran rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol. Ers 2003 mae EACH wedi gweithio ar draws amryw o sectorau gwahanol: Addysg, y System Cyfiawnder Troseddol, Iechyd, Tai, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaethau Llyfrgell, Llywodraeth Leol a sefydliadau cofleidiol gwirfoddol, statudol a’r sector preifat.
Mae ein gwasanaethau’n cynnwys:
- Cyflenwi hyfforddiant a gwasanaeth ymgynghori gan Siaradwyr achrededig i helpu asiantaethau cenedlaethol a rhanbarthol i ddeall y ddeddfwriaeth ar faterion hunaniaeth o ran rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol er mwyn newid pethau ar lefel strategol ac ymarferol.
- Cynorthwyo cyflogwyr i ddatblygu arfer gorau i gefnogi gweithwyr a gwirfoddolwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol
- Ysbrydoli ysgolion, academïau, colegau a phrifysgolion i roi polisïau a newidiadau trefniadol ar waith mewn perthynas â materion cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd drwy adnoddau, hyfforddiant ac ymgynghori a gymeradwyir gan yr Adran Addysg a’r Sefydliad PSHE, gan weithio gyda disgyblion, myfyrwyr, staff a llywodraethwyr.
- Gwasanaeth Llinell Gymorth am Ddim i bobl ifanc sy’n cynnig cymorth yn dilyn bwlio homoffobaidd, deuffobaidd neu drawsffobaidd.
- Integreiddio tair blynedd ar ddeg o brofiad proffesiynol i gynorthwyo i greu llyfrau a chanllawiau cenedlaethol a gomisiynir gan y Llywodraeth gan gynnwys ‘Safe to Learn‘, ‘Inspiring Equality in Education‘, ‘Reach Teaching Resource‘ a’r llyfr ‘That’s So Gay!‘ ac ar hyn o bryd, adolygiad llawn o Ganllawiau Gwrth-fwlio Cymru ‘Parchu Eraill’ ar gyfer Llywodraeth Cymru.