Read this page in English
Mae EACH yn elusen gofrestredig sydd, ers 2003, wedi cynnig gwasanaethau cymorth hanfodol i bobl sy’n dioddef bwlio neu aflonyddu homoffobig, deuffobig a thrawsffobig.
Mae ein llinell gymorth wedi derbyn miloedd o alwadau gan bobl sydd angen ein help a’n cyngor arbenigol. Mae’r gwasanaethau hanfodol hyn yn dibynnu’n llwyr ar roddion elusengar. Gyda chymaint o ffyrdd o’n helpu, o gyfrannu neu godi arian i wirfoddoli, mae yna bob amser rywbeth y gallwch chi ei wneud.
Sut i gyfrannu
Bydd cyfraniad, mawr neu fach, un swm neu swm rheolaidd, yn ein helpu ni i gefnogi pobl ifanc sy’n dioddef aflonyddu homoffobig, deuffobig, neu drawsffobig, all ddigwydd ar sawl ffurf wahanol, o alw enwau, i anfon negeseuon cas ar y ffôn neu ar-lein, i ymosodiadau corfforol.
Gallwch wneud un cyfraniad neu gyfrannu’n rheolaidd yn hwylus drwy glicio ar y logo ‘Donate’ isod.
Rydym yn croesawu cyfraniadau rheolaidd a ddaw’n syth o’ch cyflog. Trwy gyfrannu fel hyn, bydd eich rhodd yn dod yn uniongyrchol o’ch cyflog cyn iddo gael ei drethi, ac felly bydd cyfraniad o £10 yn costio £8 i chi mewn gwirionedd.
Ticiwch y blwch perthnasol wrth gyfrannu ar-lein, neu os ydych chi’n anfon siec, gallwch lawrlwytho ffurflen Rhodd Cymorth (Gift-Aid) a’i hanfon atom. Mae ein cyfeiriad ar waelod y dudalen.
AmazonSmile
Gall Amazon roi 0.5% o bryniannau cwsmeriaid AmazonSmile i sefydliadau elusennol o’u dewis. Mae EACH wedi’i ychwanegu fel elusen gymwys. Os hoffech chi ddechrau ei ddefnyddio – cliciwch yma
Give as you Live
Gallwch siopa ar-lein a rhoi cyfraniad i EACH heb wario’r un geiniog ychwanegol. Cofrestrwch i gefnogi EACH ar ‘Give as you Live’ a phan fyddwch chi’n siopa gyda gwerthwr ar-lein sy’n bartner, byddant yn rhoi canran i EACH. Dyma ffordd syml a hawdd o gefnogi EACH. Cofrestrwch yma ac ewch ati i siopa! Mae ‘Give as you Live’ yn cadw cofnod o’ch cyfraniadau er mwyn ichi allu gweld y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud.
Gwirfoddoli gydag EACH
A oes gennych chi amser i wirfoddoli’n gyson gydag EACH? Mae’n gyfle arbennig i wneud cyfraniad positif tuag at waith yr elusen, gan ddysgu sgiliau newydd, cynyddu’ch hyder, a gwella’ch CV ar yr un pryd. Mae gwirfoddolwyr yn y swyddfa wedi bod yn rhan hanfodol a chyson o’n gwaith. Dyma rai o’r tasgau allai apelio atoch chi:
Codi arian ar ein cyfer
P’un ai ydych chi’n hoffi trefnu gweithgareddau, rhedeg marathon, neu am roi cynnig ar rywbeth newydd, mi fydd yna brosiect codi arian ar eich cyfer chi.
Does dim rhaid i godi arian fod yn anodd, ac rydym yma i’ch helpu. Os oes gennych chi syniad am ffordd o godi arian, cysylltwch â ni drwy e-bostio info@each.education neu ffoniwch 0117 946 7607
Everyclick
Gallwch hefyd gefnogi EACH drwy ddefnyddio peiriant chwilio Everyclick. Cofrestrwch gydag Everyclick, dewiswch EACH fel eich elusen ac Everyclick fel eich peiriant chwilio ac ewch ati i godi arian! Mae chwilio gydag Everyclick yn cynhyrchu comisiwn sy’n cael ei anfon at EACH. Mae’n syml, yn hawdd, ac yn rhad ac am ddim. Cofrestrwch yma. Cofrestrwch yma.
Read this page in English
© 2003-2022 EACH, all rights reserved
EACH - Educational Action Challenging Homophobia is
a UK Registered Charity No. 1095665
Contact us at info@each.education or call 0117 946 7607
Read our Privacy and Cookie Policy · Site built by Hedgehogweb
Mae Educational Action sy'n herio homoffobia yn elusen gofrestredig Rhif 1095665.