Mae hyfforddiant EACH yn effeithiol ar draws amryw o sefydliadau, yn cynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, colegau, prifysgolion, amgylcheddau crefyddol a seciwlar, gwledig a dinesig. Rydym yn creu amgylchedd dysgu diogel a chyfartal i bawb.
Mae hyfforddiant EACH yn darparu cymorth arbenigol i ysgolion cynradd ac uwchradd, academïau, colegau, prifysgolion ac awdurdodau lleol, gan gynyddu’r gallu i wella bywydau pobl LHDT+ a chynyddu hyder y staff i’w cefnogi.
Mae EACH yn gwybod bod pob sefydliad yn wahanol. Does dim un ateb sy’n llwyddo bob tro i hyrwyddo ethos cynhwysol lle mae pawb yn cael llais a gwrandawiad. Er mwyn herio ac atal bwlio ar sail rhagfarn mae angen inni ddeall cyd-destunau amrywiol ein gwaith.
Mae disgyblion, myfyrwyr, ac aelodau o’u teuluoedd sy’n lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol yn haeddu cael eu trin â’r un parch â’u cyfoedion hetrorywiol neu gydryweddol yn yr ysgol, coleg neu brifysgol, ac o fewn eu cymdeithas yn y dyfodol.
Mae gan athrawon, tiwtoriaid a darlithwyr gyfrifoldeb moesol a chyfreithiol i hybu empathi, dealltwriaeth a pharch tuag at bob disgybl a myfyriwr.
Mae bwlio neu aflonyddu homoffobig, deuffobig, a thrawsffobig yn effeithio ar bawb, ac nid yn unig y rhai sy’n LHDT+. Gall unrhyw berson ifanc fod yn darged. Mae’r math hwn o fwlio’n creu amgylchedd dysgu niweidiol sy’n atal disgyblion rhag cyflawni eu potensial yn llawn.