Beth i’w wneud os ydych chi’n darged bwlio homoffobig, deuffobig, neu drawsffobig
Mae EACH yn cynnig gwasanaeth di-dâl a chyfrinachol i roi gwybod am ddigwyddiadau homoffobig, deuffobig, a thrawsffobig ar draws y DU. Os ydych chi wedi dioddef bwlio neu aflonyddu homoffobig, deuffobig neu drawsffobig, gallwch ffonio’n Llinell Gymorth ddi-dâl ar 08081000143 (Llun i Gwener, 9am-4pm) neu ewch i waelod yr adran hon a defnyddio’n ffurflen ar-lein i gael yr un cymorth.
A fyddwch chi’n dweud wrth fy rhieni, ysgol neu goleg fy mod wedi ffonio?
Na fyddwn. Mae EACH yn elusen gofrestredig gwbl annibynnol. Does neb arall â’r hawl i weld yr wybodaeth a rowch chi i ni heb ichi roi eich caniatâd i hynny, cyn belled â’ch bod chi’n dweud wrthon ni nad ydych chi’n bwriadu niweidio chi’ch hun na neb arall.
Pwy fydd yn ateb y ffôn?
Bydd staff hyfforddedig yn gwrando arnoch chi ac yn cynnig cyngor proffesiynol a chyfrinachol, ac yn penderfynu, gyda chi, beth sydd orau i’w wneud nesaf. Os ydyn nhw’n brysur gyda galwad arall ac yn methu ag ateb y ffôn, plîs ffoniwch eto o fewn ein horiau busnes (Llun – Gwener, 9am-4pm) neu ewch i waelod yr adran hon a defnyddiwch ein ffurflen rhoi gwybod ar-lein.
Oes rhaid talu am yr alwad?
Mae’r galwadau’n rhad ac am ddim o linellau cartref, ffonau talu a’r rhan fwyaf o ffonau symudol. Ni ddylai’n rhif ni ymddangos ar fil y ffôn cartref os ydy’r alwad yn ddi-dâl. Codir tâl gan rai cwmnïau ffonau symudol ond bydd eich darparwr gwasanaeth ffôn symudol yn eich rhybuddio o hynny cyn i’ch galwad ein cyrraedd ni.
Sut mae’r help yn gweithio?
Yr agosaf yr ydych chi atom ni, y mwyaf cynhwysfawr yw’r help y gallwn gynnig. Os ydych chi’n bell i ffwrdd, byddwn yn eich cyfeirio at yr asiantaeth fwyaf perthnasol yn eich ardal chi all gynnig help.