Mae EACH wedi darparu hyfforddiant ar draws y sector addysg ers 2003. Mae’r Adran Addysg wedi’n comisiynu deirgwaith i greu adnoddau a sesiynau hyfforddi ac ymgynghori ar gyfer ysgolion a cholegau. Mae Ofsted yn defnyddio un o’n hadnoddau fel sylfaen ar gyfer ei Hyfforddiant Arolygwyr Ysgolion. Rydym yn gweithio gydag ysgolion, colegau, prifysgolion, unedau cyfeirio disgyblion, cyrff ieuenctid a lleoliadau eraill sy’n gweithio gyda phlant, er mwyn:
- Creu adnoddau Sicrwydd Ansawdd ar gyfer yr Adran Addysg a Chymdeithas ABCh, a dangos ichi sut i ddefnyddio’r rhain yn y ffordd orau yn eich ystafell ddosbarth, theatr ddarlithio, uned neu ganolfan ieuenctid.
- Eich helpu i gefnogi’r rhai sy’n ‘dod allan’ fel unigolion lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol, neu sy’n cwestiynu eu hunaniaeth o ran rhywedd neu rywioldeb.
- Cynnal sesiynau hyfforddiant achrededig Swyddfa Safonau’r CPD
- Lleihau gwahaniaethu ar sail rhywioldeb neu hunaniaeth o ran rhywedd
Bydd sesiynau hyfforddi CPD achrededig EACH yn helpu’ch ysgol, coleg, neu brifysgol gydag un neu ragor o’r canlynol:
- Darparu strategaethau ymarferol i gefnogi person ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol, neu un sy’n cwestiynu ei rywioldeb neu hunaniaeth o ran rhywedd i ‘ddod allan’
- Eich helpu i herio galw enwau neu fwlio homoffobig, deuffobig neu drawsffobig a sicrhau eich bod yn gwybod am y ddeddfwriaeth ddiweddaraf
- Eich darparu â dulliau ymarferol o addysgu am fywydau a pherthnasau LHDT+ mewn ffordd bositif
- Eich cynorthwyo i ymgynghori â disgyblion, rhieni, llywodraethwyr, cydweithwyr, ac arweinwyr crefyddol.
