Mae ein hyfforddiant ar gyfer ysgolion a cholegau yn darparu staff â’r sgiliau a’r hyder i greu amgylchedd dysgu cynhwysol ar gyfer disgyblion lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol, neu rai sy’n cwestiynu. Mae EACH yn darparu hyfforddiant ac ymgynghoriaeth ar faterion LHDT+ i Uwch Dimau Rheoli, ymarferwyr ystafell ddosbarth, staff bugeiliol a chymorth dysgu, llywodraethwyr a phobl broffesiynol eraill sydd â dyletswydd gofal tuag at bobl ifanc.
Trwy ddefnyddio’n hadnoddau gwrth-fwlio, canllawiau polisi a chynlluniau gwersi, byddwch yn canfod dulliau positif ac adeiladol o gefnogi disgyblion, myfyrwyr a staff, gan herio bwlio homoffoboig, deuffobig a thrawsffobig.
Mae EACH yn cynllunio rhaglenni pwrpasol sy’n blaenoriaethu anghenion a gofynion unigol eich ysgol, academi neu goleg.
Addysg Rhyw a Pherthnasoedd sy’n Cwmpasu LHDT+
Mae darparu addysg rhyw a pherthnasoedd sy’n cynnwys materion LHDT+ yn gam hanfodol tuag at greu awyrgylch agored sy’n cydymffurfio â’r gyfraith yn eich ysgol, academi, neu goleg. Rydym yn cynnig cyrsiau sydd wedi’u teilwra ar gyfer lleoliadau cynradd, uwchradd a thrydyddol, gan baratoi cyfranogwyr i gyflenwi’r cwricwlwm mewn ffordd sy’n cydnabod ac yn cynnwys pobl LHDT+. Dylai cyfranogwyr adael ein sesiynau:
- Gyda’r hyder i ddefnyddio termau perthnasol ac addas i ddisgrifio rhywioldeb a hunaniaeth o ran rhywedd
- Yn barod i gwrdd â gofynion statudol dyletswyddau cydraddoldeb newydd o Hydref 2019 ymlaen
- Yn wybodus ynghylch materion diogelu ac yn barod ar gyfer Estyn ac arolygiadau eraill
- Yn hyderus i ddefnyddio amryw o adnoddau i gefnogi addysgu am rywioldeb a hunaniaeth o ran rhywedd
- Yn barod i ddiweddaru deunydd presennol, polisïau a dulliau o fewn eu lleoliadau, yn unol â disgwyliadau Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yn y dyfodol
- Yn barod i ymateb i gwestiynau disgyblion, rhieni, cydweithwyr, llywodraethwyr, ymddiriedolwyr a’r gymuned ehangach.