Canllawiau Gwrth-fwlio Ysgolion Addysg i Gymru

Read this page in English

ADDYSG

Canllawiau Gwrth-fwlio ar gyfer Ysgolion, Awdurdodau Lleol, Rhieni, Gofalwyr, Plant a Phobl Ifanc

Ar 6 Tachwedd 2019, lansiodd Llywodraeth Cymru Ganllawiau Gwrth-fwlio newydd sbon, wedi’u targedu at gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, awdurdodau lleol, rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc. Mae EACH yn ymfalchïo ei fod wedi datblygu’r rhain gyda Youthworks ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae’n gyhoeddiad newydd sbon sy’n adeiladu ar Ganllawiau Gwrth-fwlio gwreiddiol Llywodraeth Cymru sef ‘Parchu Eraill’. Yn ei lansiad dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams:

“Rydyn ni wedi ymroi i sicrhau bod pob un o’n dysgwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn cael ei gefnogi’n iawn i wireddu ei botensial yn llwyr. Rydyn ni’n benderfynol o fynd i’r afael â bwlio yn ei gyfanrwydd drwy ddeall a mynd at wraidd yr hyn sy’n achosi ymddygiad annerbyniol. Rydyn ni eisiau i’n hysgolion fod yn amgylcheddau cynhwysol a dengar, sy’n rhoi pwyslais ar lesiant fel bod dysgwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn barod i ddysgu. Mae mor bwysig fod plant a phobl ifanc yn cael eu haddysgu, yn y cartref ac yn yr ysgol, am greu a chynnal cydberthnasau sy’n dangos parch at eraill a bydd y canllawiau newydd hyn yn helpu i gyflawni hynny.”

Mae’r canllawiau diwygiedig yn amlinellu disgwyliadau Llywodraeth Cymru y bydd ysgolion:

  1. yn mabwysiadu dulliau rhagweithiol i atal bwlio;
  2. â pholisi gwrth-fwlio sy’n cysylltu â pholisïau’r ysgol ar ymddygiad a diogelu;
  3. yn cofnodi achosion o fwlio a’u monitro i helpu i gymryd camau rhagweithiol i herio bwlio;
  4. yn adolygu eu polisi a strategaeth gwrth-fwlio yn rheolaidd ar y cyd â’u dysgwyr, a hynny o leiaf bob tair blynedd.

Pecynnau Adnoddau Gwrth-fwlio (Ar gael i’w Lawrlwytho)

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi pecynnau adnoddau newydd i gyd-fynd â’r canllawiau newydd. Mae’r pecynnau yn cynnwys taflenni ffeithiau, canllawiau atodol, templedi ar gyfer ffurflenni cofnodi digwyddiadau ac enghreifftiau o arfer gorau i helpu awdurdodau lleol i gefnogi ysgolion i herio bwlio.

Mae’r adnoddau newydd ar gael ar wefan Hwb drwy ddilyn y dolenni unigol isod:

I gael mwy o wybodaeth am ein hyfforddiant neu wasanaeth ymgynghori ar addysg, e-bostiwch director@each.education

Read this page in English