Comisiynodd yr Adran Addysg a Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth Fiwro Cenedlaethol y Plant (NCB) i arwain rhaglen yn adeiladu ar y gwaith a wnaeth EACH a’r NCB yn 2016 a 2017. Mae ‘Learn Equality Live Equal’ yn herio bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd fel rhan o raglen sy’n rhedeg rhwng 2017 a 2019.
Er mwyn sicrhau bod y dysgu o’r prosiect hwn yn cael ei ledaenu mor eang â phosib bydd Prifysgol Sheffield Hallam yn cynnal gwerthusiad annibynnol ar ddiwedd y rhaglen. Bydd y canfyddiadau allweddol yn sylfaen i bolisïau’r llywodraeth ac yn cynyddu dealltwriaeth y sector o sut i leihau bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig.
Gan adeiladu ar ein gwaith ar y cyd ag ysgolion, mae EACH wrthi ar hyn o bryd yn creu Canllaw ar gyfer Uwch Dimau Rheoli i helpu i greu ysgolion cynhwysol.
Dyma ychydig o adborth o’r ysgolion y buom yn gweithio â nhw:
Ysgol Gynradd Horton ‘Roedd yr hyfforddiant a’r cymorth a gawsom i hybu cydraddoldeb ar gyfer disgyblion LHDT+ a’u teuluoedd yn wych ac yn addysgiadol. Erbyn hyn rydym yn fwy hyderus o lawer yn trafod materion LHDT+ ac roedd yr hyfforddiant staff a’r gweithdy dosbarth yn cwrdd â’n hanghenion i’r dim. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag EACH eto yn y dyfodol.’ Dawn Wotton, Dirprwy Bennaeth
Ysgol Gynradd Almondsbury ‘Hyfforddiant addysgiadol dros ben. Dysgais lawer yn nhermau dealltwriaeth.’ Gavin Evens, Athro
‘Roedd sesiwn staff EACH yn gyfle arbennig i siarad â chydweithwyr am y plant yn ein hysgol ac yn arbennig sut rydym yn cyflwyno amrywiaeth iddyn nhw. Cefais nifer o syniadau ymarferol y gallaf eu defnyddio gyda fy nosbarth. Dysgais hefyd bod modd cynnwys hyd yn oed aelodau ieuengaf yr ysgol – o’i gyflwyno yn y ffordd iawn.’ Becky Wingett, Athrawes Ddosbarth
‘Sesiwn wedi’i chyflwyno’n dda. Roedd y gweithgareddau’n llwyddo i’n cael i ganolbwyntio ar y testun ac yn ysgogi trafodaethau ystyrlon am bolisi’r ysgol a dulliau’r dyfodol.’ Jo Duffy, Athrawes Ddosbarth