Mae Cyfarwyddwr Gweithredol EACH, Jonathan Charlesworth, yn Ymgynghorwr Arbenigol sydd ar restr arbenigwyr achrededig yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol o bobl broffesiynol y mae’r system cyfiawnder troseddol yn troi atynt yn rheolaidd ar gyfer cyngor arbenigol a hyfforddiant. Mae Jonathan yn un o gyd-awduron ‘
Male Rape & Sexual Assault Self-Help Guide‘ SARSAS ac mae’n un o ymgynghorwyr arbenigol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn y maes hwn. Mae hefyd yn un o Siaradwyr Achrededig Swyddfa Safonau’r CPD.

Ers 2000 mae wedi gweithio’n agos â phob un o asiantaethau’r System Cyfiawnder Troseddol – yn darparu sesiynau ymgynghori a hyfforddi ar gyfer:
- 36 allan o 43 o Luoedd Heddlu’r DU (hyd yn hyn)
- Y Weinyddiaeth Amddiffyn
- Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
- Y Coleg Plismona
- Gwasanaeth Erlyn y Goron
- Y Gwasanaeth Carchar a Phrawf
- Timau Troseddwyr Ifanc
- Barnwyr, Ustusiaid, ac Eiriolwyr y Goron
Mae’r hyfforddiant a’r ymgynghori wedi’i deilwra i gwrdd â gofynion eich gweithlu. Gyda’r heddlu, er enghraifft, mae hyn yn cynnwys help i gydymffurfio ar lefel genedlaethol neu i gwrdd ag anghenion lleol swyddogion sy’n gweithio tuag at ICIDP, IMSC neu SIO, yn oystal â’r rhai sy’n dilyn cyrsiau SOLO, neu FRO.