System Cyfiawnder Troseddol

Read this page in English

SYSTEM CYFIAWNDER TROSEDDOL

Sesiynau Hyfforddiant ar y System Cyfiawnder Troseddol

Trais Gwrywaidd ac Ymosodiadau Rhywiol – Archwilio’r Drosedd, Chwalu’r Myth – Helpu’ch Heddlu chi i wella’i gyfradd adrodd am drais rhywiol gwrywaidd.

Trosedd Homoffobig, Deuffobig neu Drawsffobig – Cynyddu’r nifer sy’n rhoi gwybod amdano a gwella’r ‘ymateb cyntaf’ iddo.

Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant a Diogelu – sy’n cyfeirio’n benodol at bobl ifanc LHDT+ a bregusrwydd cysylltiedig: cwrs amserol dros ben.

Gwylia dy Iaith – Rhywedd amrywiol, anneuaidd, panrywiol, cwestiynu neu ryngryw. A yw’r lecsicon ieithyddol yn eich drysu? Dyma gyfle i deimlo’n fwy hyderus wrth siarad ar lefel broffesiynol a chymdeithasol gyda neu ynghylch pobl y gall eu cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth o ran rhywedd fod yn wahanol i’ch un chi. Rhowch arweiniad drwy esiampl gan herio iaith anghywir neu amhriodol o fewn eich Heddlu neu Wasanaeth.

Dyna’r Gyfraith – Cyfle i ddysgu am ddeddfwriaeth mewn perthynas â gweithwyr traws, y rhagfarn a’r gwahaniaethu y gallant ei wynebu, a sut i daclo aflonyddu trawsffobig.

Recriwtio a Chadw – Beth sy’n denu darpar weithwyr hoyw neu draws i’ch Heddlu neu’ch Gwasanaeth? Beth sy’n gwneud iddyn nhw aros? Beth sy’n gwneud iddyn nhw adael?

Bydd y cyrsiau poblogaidd hyn yn cynorthwyo’ch Heddlu neu’ch Gwasanaeth chi i ddod yn gyflogwr ‘arfer gorau’, sy’n croesawu, gwerthfawrogi a chadw ei weithwyr hoyw a thraws (gan gynnwys unigolion sy’n newid eu rhywedd tra maent yn gweithio i chi), gan atal aflonyddu Homoffobig, Deuffobig neu Drawsffobig rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Mae hyfforddiant Jonathan Charlesworth wedi’i deilwra ar gyfer pob graddfa, safle neu lefel yn eich sefydliad Cyfiawnder Troseddol.

Efallai eich bod yn Gomisiynydd Hyfforddiant, yn swyddog Adnoddau Dynol neu’n Rheolwr Gwasanaeth, yn Weinyddwr neu’n aelod o’r staff gweithredol. Mae wedi’i dargedu at y rhai sy’n datblygu neu’n gweithredu polisïau, ac mae’n caniatáu i chi neu’ch cydweithwyr i drosi’r rheiny’n strategaethau ymarferol. 

Byddwch yn derbyn:

  • Hyfforddiant deinamig, achrededig, a gyflenwir gan arbenigwr profiadol a chymwysedig yn y maes
  • Hyfforddiant penodedig sydd wedi’i deilwra’n arbennig i gwrdd ag anghenion eich uned, adran, staff neu dîm
  • Adnoddau i fynd i’r afael ag aflonyddu ar sail rhagfarn yn eich gweithle
  • Cefnogaeth gynhwysfawr, barhaus dros y ffôn ac e-bost i’ch cefnogi a’ch helpu i ddatrys problemau yn y gweithle wrth iddyn nhw godi.

Adborth

  Roedd eich hyfforddiant yn gwbl lwyddiannus ac roedd yr adborth gan y myfyrwyr yn wych. Dywedwyd bod eich sesiwn yn un ‘hanfodol’ ar gyfer pob cwrs CID. Dywedodd yr holl fyfyrwyr ei bod wedi’i chyflwyno’n dda, yn effeithiol, yn ddiddorol, yn hynod berthnasol i blismona modern, ac i ddatblygiad y myfyrwyr fel Swyddogion/Uwch-swyddogion Heddlu yn y dyfodol. Roedd eich arddull, gwybodaeth a phrofiad yn gymorth i ddysgu a sicrhau bod yr hyfforddiant yn llwyddiannus. Llwyddwyd i gwrdd â’r amcanion dysgu mewn ffordd hwylus, gan ddefnyddio dulliau amrywiol a oedd yn annog y myfyrwyr i weithio a chymryd rhan  

Hyfforddiant Ymchwiliol, Heddlu Wiltshire

Beth nesaf?

I siarad â Jonathan am unrhyw un o’i sesiynau hyfforddiant Siaradwr Achrededig SCT ac i archebu un ar gyfer eich Heddlu neu’ch Gwasanaeth chi ffoniwch 0117 9467607. cpd-speaker-logo

I ddysgu mwy info@each.education

Read this page in English